Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

read more
read less

Sut mae lleddfu’r pwysau cynyddol sydd ar adrannau brys ysbytai a gwasanaethau ambiwlans?
Yn y bennod hon mae Dr Dewi Rogers meddyg teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn son am ddull o gydweithio arloesol o enw’ r Hyb Llywio Clinigol. Fel rhan o’r Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel, mae’r hwb hwn yn cynnig adnodd canolog i sefydliadau fel cartrefi gofal, gan ddarparu cyngor a chymorth amserol, gan leddfu’r straen ar wasanaethau gofal iechyd critigol.
Mae Dr Rogers yn son am sut mae’r Hwb yn galluogi cartrefi gofal i wneud penderfyniadau gwybodus a darparu gofal wedi’i deilwra, gan leihau ymweliadau diangen i’r ysbyty. Os yw'r claf yn sefydlog ac nad yw mewn perygl ar unwaith, yn lle galw ambiwlans yn syth ,mae Dr Rogers yn eu darbwyllo i alw’r Hwb “Rydym yn gweld llwyddiannau aruthrol gyda'r hyn ry ni’n gwneud. O’r 80% i 90% o'r galwadau a gawn o gartrefi nyrsio, rydym yn llwyddo i osgoi cludo’r cleifion hyn i’r ysbyty ac ry ni’n eu cadw gartref lle maen nhw’n dymuno bod ac yn eu rheoli'n ddiogel,” meddai.
Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Dr Rogers. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/the-clinical-navigation-hub-reducing-pressure-on-wast-emergency-departments-and-capacity-in-acute-hospitals--59283959
Pan fydd cyflwr claf yn gwaethygu at bwy ddylai’r claf neu’r teulu droi ato os , yn eu tyb nhw, bod yr achos yn cael ei anwybyddi gan y tîm meddygol? Yr ateb yw’r gwasanaeth Call 4 Concern.
Yn y bennod hon mae Eirian Edwards uwch ymarferydd nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod y gwasanaeth arloesol cafodd ei gyflwyno gan y Bwrdd fis Ebrill 2023. Yn ôl Eirian, roedd 'na gydnabyddiaeth ymhlith y staff er bod ganddyn nhw lawer o brofiad ac arbenigedd, pan fydd rhywun yn mynd yn wael, mae’r tîm meddygol weithiau yn colli rhywbeth y mae’r teulu yn sylwi arno. Gallan nhw ffonio Call 4 Concern unrhywbryd.
“Rydyn ni'n cynnig y cyfle hwn i gleifion a pherthnasau gael rhywun wrth ochr eu gwely sydd â sgiliau ychwanegol ac sydd fel arfer yn dod â chefndir gofal critigol," meddai.
Fe fydd y bennod yn trafod yr heriau o gyflwyno’r gwasanaeth gan gynnwys perswadio’r staff meddygol na fyddai’r galwadau i Call 4 Concern yn rhai dibwys. Mae Eirian yn sôn am y cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth i ysbytai eraill yng Ngogledd Cymru, a chydweithio gydag Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wraidd Ffordd Toyota helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu gan GIG Cymru.
Meddai Nick, 'Fe ddysgon ni'n eithaf cynnar mai un o'r egwyddorion y mae Toyota yn credu’n gryf ynddi yw’r awydd i gyfrannu at gymdeithas. A phan ofynnom sut allwn wneud hynny, ni wnaethom gynnig opsiwn gwell na gweithio gyda'r gwasanaethau iechyd.'
Ar gyfer y bennod hon o 'Trafod Gwelliant', rydym yn trafod gwelliant ac arloesedd gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru (RIW). Pan ofynnwyd iddo am egwyddorion meddwl dylunio, dywedodd Philip, 'Dwi'n meddwl bod meddwl dylunio yn fath o gyfuniad rhwng emosiwn ac athroniaeth i mi. Os ydyn ni wir yn rhoi pobl yng nghanol popeth rydyn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i ni gynnwys pobl yn y broses o feddwl am syniadau newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.'
Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, siaradodd Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU â Martine Price, Nyrs Arweiniol gyda Gwelliant Cymru am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis. Dywedodd Terence, ‘Ond yr hyn y byddem yn ei ddweud gyda sepsis yw, nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn neb. Mae'n effeithio ar bawb. Felly mae angen i ni gasglu straeon y cleifion hyn dim ond i dynnu sylw at y ffaith nad yw'n dibynnu ar oedran nac ethnigrwydd... gall fod yn unrhyw un.'
Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, eisteddodd Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i lawr gyda'r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, i dynnu sylw at y gwaith parhaus o wella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Wrth ddisgrifio effaith Covid a'r heriau ar ein gweithlu, eglurodd Catherine Roberts pa mor bwysig oedd creu dull oedd yn cael ei gefnogi gan staff, 'Sut y gallem greu dull yn yr ysbyty lle byddai’r cyfle i wella yn cael ei gefnogi a lle na fyddai’r cyfleoedd i fethu yn cael eu beirniadu ar yr un pryd. Oherwydd mae unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn gwaith gwella yn gwybod eich bod chi'n rhoi cynnig ar rai pethau, ac mae rhai pethau'n gweithio a rhai pethau ddim. Ond mae'n rhaid i chi greu diwylliant lle mae'r ddau beth yn dderbyniol, nid dim ond diwylliant lle mae gwelliant yn cael ei groesawu a lle nad oes croeso i bopeth arall.' Ymhelaethodd Robert Foley ar effaith Covid-19 a'r diwylliant, 'Un o'r pethau a ddysgais drwy COVID, ac roedd yn gwbl glir i ddal gafael arno, oedd datganoli grym. Felly cymryd pŵer gan grŵp craidd canolog o bobl a'i roi yn ôl i'r rhai sy'n gwneud y gwaith gwneud. Ac rwy'n credu mai un o'r llwyddiannau mwyaf rydym wedi’i wneud yw sicrhau bod holl reolwyr y ward yn dod at ei gilydd, gan gymryd y cyfarfod safle hwn i ffwrdd o rai dethol, ac agor y cyfarfod safle hwnnw i bob un o reolwyr y ward, a’n holl wasanaethau eraill fel diagnosteg, fferyllwyr, ac ati.'