Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Datgloi: Straeon COVID o Gymru

  • Gwersi bywyd yn sgil COVID: chwalu rhwystrau a chreu ysbytai maes, gyda Dr Meinir Jones a Dr Liza Thomas-Emrus

    21 APR 2022 · Mae Meinir Jones, Meddyg Teulu ac Arweinydd Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Liza Thomas-Emrus, Meddyg Teulu ac Arweinydd Clinigol Gwasanaeth Gwella Llesiant Bwrdd Iechyd Cwm Taf, yn ddwy gydweithwraig a chwaraeodd ran hollbwysig yn y gwaith o greu ysbytai maes yn ystod y pandemig – wrth iddyn nhw helpu i ddarparu gofal hanfodol i’r rhai mewn angen a thorri rhwystrau traddodiadol byrddau iechyd mewn cyfnod digynsail. Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda nhw am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau ar y rheng flaen yn ystod y cyfnod yma, a’r holl wersi gallwn ni i gyd eu dysgu o’r ddwy flynedd ddiwethaf. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    36m 12s
  • Wrth galon ymateb COVID Cymru: uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ei rôl allweddol, gyda Dr Eleri Davies MBE

    18 APR 2022 · Mae gwestai heddiw yn un y bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi. I lawer ohonon ni, Dr Eleri Davies MBE oedd y brif ffynhonnell ar gyfer diweddariadau COVID Llywodraeth Cymru yn ystod llawer o’r pandemig. Yn y bennod yma, cafodd Dot sgwrs ddwys gyda Dr Eleri am ei siwrne i’r byd meddygaeth, ei rolau amrywiol a oedd yn ganolog i ymateb COVID Cymru, a sut roedd yn teimlo pan gafodd ei chydnabod gydag MBE am ei gwaith yn ystod y pandemig. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    36m 11s
  • Llunio gyrfa annisgwyl yn 19 oed yn y cyfryngau, a hyn oll yng nghanol pandemig, gyda Mirain Iwerydd

    13 APR 2022 · Mae Mirain Iwerydd yn seren newydd yng Nghymru. Yn 19 oed, hi yw cyflwynydd rhaglen y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru 2 ochr yn ochr â gwneud ei gradd prifysgol. Yn y bennod yma, bu Dot yn sgwrsio gyda Mirain i ddysgu beth yw ei phrofiad hi fel person ifanc yn byd mewn pandemig byd-eang, ac i glywed sut arweiniodd ei phrosiect personol unigryw yn ystod y cyfnod clo at ei gyrfa newydd yn y cyfryngau. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    30m 30s
  • Serennu ar TikTok a gwneud cynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, gydag Ellis Lloyd Jones

    10 APR 2022 · Digrifwr poblogaidd o Dreorci yw Ellis Lloyd Jones, sydd wedi cael miliynau o wylwyr ar ei sgetsys comedi ar TikTok, ac wedi ymddangos ar gyfres BBC Tri ‘Young, Welsh and Bossin’ it.’ Yn y bennod yma, bu Dot ac Ellis yn trafod y stori y tu ôl i’w lwyddiant aruthrol ar TikTok, dod i arfer â byw yn llygad y cyhoedd, ei waith diweddar fel llysgennad ar ymgyrch Diogelu Cymru, a’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    30m 14s
  • Arwain Cymru drwy’r pandemig gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

    10 APR 2022 · Croeso i bodlediad newydd sbon Diogelu Cymru, ‘Datgloi: Straeon COVID o Gymru.’ O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol, yn y gyfres yma bydd y cyflwynydd teledu a radio Dot Davies yn clywed gan amrywiaeth o bobl nodedig ledled Cymru wrth i ni nodi dwy flynedd ers y cyfnod clo cyntaf a myfyrio ar eu profiadau o’r pandemig. Mae gwestai heddiw yn un arbennig. Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn gyfrifol am arwain Cymru drwy’r pandemig a llywio’r wlad drwy gyfnod digynsail. Yn y bennod yma, bu Dot yn siarad gyda’r Prif Weinidog gan edrych y tu ôl i’r llen i weld sut llwyddodd Llywodraeth Cymru i reoli’r achosion o’r firws yn ôl yn 2020, manylion ei ‘ddiwrnod tywyllaf’, a’i falchder yn yr ymdeimlad o undod ledled y wlad yn y cyfnod heriol yma. Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
    10m 49s

Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig. O weithwyr gofal iechyd rheng...

show more
Y cyflwynydd Dot Davies sy’n cynnal cyfres o bodlediadau yn sgwrsio gydag ystod o bobl nodedig ledled Cymru am eu profiadau yn ystod y pandemig.

O weithwyr gofal iechyd rheng flaen i sêr y cyfryngau cymdeithasol i’r Prif Weinidog ei
hunan, mae pob pennod yn rhoi golwg y tu ôl i’r llen i wrandawyr o sut mae COVID-19
wedi effeithio ar bobl o bob cefndir ar draws y wlad.

Felly ble bynnag ydych chi a beth bynnag rydych chi’n ei wneud – mwynhewch…
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search