Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Am Blant

  • Sut mae plant yn dysgu neu'n caffael iaith? A ydy trochi iaith yn effeithiol?

    22 SEP 2022 · Gwrandewch ar y drafodaeth ddifyr a chyfoes hon yng nghwmni aelodau'r panel: Owain Gethin Davies (Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy), Alaw Humphreys (Mudiad Meithrin) ac Esyllt Hywel Evans, yr Athro Enlli Thomas, a Dr Nia Young o Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor.
    45m 48s
  • Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?

    8 AUG 2022 · Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn? Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
    1h 12m 48s
  • Beth ydy chwarae?

    14 JUN 2022 · Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Mwynhewch y gwrando!
    50m 46s
  • Llais Rhieni

    19 MAY 2022 · A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr? I gael gwybod mwy gwrandewch ar bodlediad rhif 5 yn y gyfres AM BLANT yng nghwmni Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Sion Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
    50m 24s
  • Hawliau Plant

    8 FEB 2022 · Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Gwrandewch ar y podlediad i gael gwybod mwy.
    1h 4m 52s
  • Beth sydd ei angen ar blentyn...?

    11 JAN 2022 · Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
    47m 29s
  • Beth yw ieuenctid?

    7 DEC 2021 · Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Faint o ryddid sydd ar gael iddynt a sut fath o ddyfodol sydd o'u blaenau?
    54m 27s
  • Beth yw Plentyndod?

    11 NOV 2021 · Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
    49m 4s
  • Croeso i bodlediad Am Blant

    5 NOV 2021 · Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc. Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill. Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
    55s

Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl...

show more
Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.

Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.

Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search