Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Sgwrs?

  • Perthnasau

    8 NOV 2023 · Y gwir yw bod perthnasau da - gyda theulu, ffrindiau, cariadon, ac eraill - yn gallu gwneud ni’n hapus…ond yn yr un modd, pan mae pethau’n mynd o le mewn perthynas, mae’n gallu cael effaith negyddol iawn ar ein hapusrwydd a’n hiechyd meddwl. Mae cyfnod prifysgol yn gyfnod hynod yn ein bywydau, yn adeg lle mae perthnasau gyda theulu a ffrindiau, hen a newydd, yn newid yn gyson. Yn y bennod hon mae Liam Edwards, sy’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r berfformwraig ac actores, Carys Eleri, yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans o Brifysgol Bangor i drafod y pwnc o berthnasau. Pwyntiau i’w nodi Pam cael pennod yn trafod perthnasau? (4:02) Liam yn trafod magwraeth, tyfu fyny a ffrindiau ac yna’r profiad o fynd i brifysgol (5:45) Carys Eleri yn trafod ei magwraeth a mynd i brifysgol (14:05) Endaf yn sôn am y math o bethau mae myfyrwyr yn dod i drafod gyda’r cwnselwyr (21:16) Liam yn trafod ei berthynas gyda’i deulu a dod allan ac yna Carys yn siarad am ei theulu (24:45) Liam a Carys yn siarad am ddefnyddio eu profiadau yn eu gwaith creadigol a cherddoriaeth (33:57) Sylwadau cloi (39:02)
    43m 41s
  • Dynion ac Iechyd Meddwl

    24 OCT 2023 · Yn y bennod hon, mae’r ffocws ar ddynion ifanc a’u hiechyd meddwl a lles emosiynol. Mae cael dynion i siarad a chydnabod problemau yn parhau i fod yn her - er bod arwyddion bod hyn yn newid, fel y clywn ni. Yn siarad am y pwnc gyda Trystan mae’r myfyriwr Osian Iorwerth o Ynys Môn, sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams, yr actor Gethin Bickerton a’r cwnselydd o Brifysgol Bangor, Endaf Evans. Mae’n sgwrs bwysig sy’n gweld nhw’n trafod iselder, hunan laddiad, tyfu fyny, rhywioldeb, dod i dderbyn dy hun, cefn gwlad ac amaethyddiaeth a phwysigrwydd siarad a chael cymorth. Rhybudd cynnwys: hunan laddiad Pwyntiau i’w nodi Pam cael pennod wedi’i neilltuo i ddynion? (3:00) Profiad Osian yn y brifysgol (4:40) Stori Gethin a’i iechyd meddwl yn ei arddegau, rhywioldeb, cefn gwlad (9:10) Endaf yn siarad am fyfyrwyr o gefndir cefn gwlad yn benodol (12:10) Gethin yn siarad am waith y DPJ Foundation (25:50) Cyngor i unrhyw un sy’n gwrando (31:10)
    35m 8s
  • Alcohol

    10 OCT 2023 · “Ti’n ca’l shaclad heno?” “OMB, o ti mor feddw neithwr!” “Un fach arall?” Mae yfed alcohol yn rhan o ddiwylliant cymdeithasu’r wlad hon. Ac mae’n ystrydeb bron i feddwl am fywyd myfyriwr - joio gormod ac yfed ar noson allan. Mae’r mwyafrif ohonom yn gweld ein perthynas gydag alcohol yn rhywbeth weddol ysgafn, ac er bod pawb yn gwybod eu bod nhw’n gor-neud hi ar adegau, does dim angen poeni, ychydig o hwyl yw e wedi’r cyfan - ie? Yn y bennod hon mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol a’u perthynas efo alcohol heddiw - gwneud pethau dwl dan ddylanwad, am agweddau cymdeithas, am gydnabod fod problem. Am ddweud ‘Na’, ac am fod yn hapusach person o beidio yfed. Cyflwyniadau (2:00) Agweddau cymdeithas tuag at alcohol (8:30) Stori Heledd a’i pherthynas gydag yfed alcohol (11:55) Sara yn siarad am ei gwaith hi fel cwnselydd gyda myfyrwyr a phroblemau ymwneud ag alcohol (14:40) Alcohol yn gyffur a stigma’r label ‘alcoholig’ (19:22) Heledd yn siarad am benderfynu rhoi stop ar yfed a Ffion wedyn yn siarad am wneud cyfnodau sych (28:01) Ffion yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u patrymau yfed (34:27) Heledd yn trafod defnyddio alcohol fel masg a Ffion wedyn yn siarad am licio hi ei hun heb alcohol (37:49)
    44m 45s
  • Hunan-Werth

    26 SEP 2023 · Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn gwmni i Trystan mae’r gyflwynwraig teledu Mirain Iwerydd, sydd newydd orffen astudio ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth; y newyddiadurwraig, cyflwynydd a chomediwraig, Lorna Prichard, a’r cwnselydd, Gareth Davies. Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio Cyflwyniadau (1:15) Mirain, hunan-werth a iechyd meddwl yn ei harddegau (6:40) Stori Lorna a’i phrofiad hi o hunan-werth a iechyd meddwl (11:55) Gareth yn trafod fel mae diffyg hunan-werth yn gallu effeithio ar bawb (22:40) Pethe positif yn gallu dod o gyfnodau anodd (30:40) Effaith y cyfryngau cymdeithasol (32:40) Cyngor i rai sy’n gwrando (38:20)
    43m
  • Galar

    12 SEP 2023 · Mae cylch bywyd yn un sy’n cynnwys marwolaeth ac ar ryw bwynt, mae pob un ohonom yn gorfod wynebu galar a cholled. Mae’n medru bod yn anrhagweladwy, yn annisgwyl, yn anghyfleus, yn unig, yn gymhleth, yn bersonol, yn dywyll, yn boenus. Yn y bennod hon, trafodir colled a’r effaith mae’r broses o alaru yn gallu cael ar ein bywydau. Y fyfyrwraig Nanw Maelor, a’r cerddor Al Lewis sy’n rhannu eu profiadau gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs. Stori Nanw o golli ei thaid (5:11) Stori Al o golli ei dad (10:25) Sara yn siarad am rôl cwnsela mewn galar (16:37) Al yn trafod colli rhiant yn ifanc (21:50) Trafod galar a gwybod beth i’w ddweud wrth rywun ar ôl colled (24:22) Al yn sôn am y ffaith bod galar yn mynd a dod a bod cydnabod galar yn bwysig (28:40) Cefnogaeth academiadd sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n galaru (31:40) Nanw ac Al yn trafod defnyddio celf a cherddoriaeth i helpu (32:20)
    41m 16s
  • Arian a Chostau Byw

    11 JUL 2023 · Mae arian yn rhywbeth sydd wedi peri gofid i’r mwyafrif ohonon ni ar ryw bwynt yn ein bywydau. Efallai ein bod ni wedi gorwario ar gerdyn credyd neu ar noson allan, yn poeni am y gost o fod yn fyfyriwr, yn gofidio am dalu rhent, neu’n becso am faint i ni’n ennill mewn swydd, ac wrth gwrs, y twf diweddar mewn costau byw - ac mae’r cyfan yn gallu effeithio ar ein lles a iechyd meddwl. Mae’n wir i ddweud hefyd bod salwch meddwl yn gallu arwain at broblemau arian mewn pob math o ffyrdd - cylch dieflig yn aml. Ac eto, mae problemau a gofidiau ariannol yn rhywbeth mae llawer o bobol yn cadw’n gudd. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Elin Bartlett, yr hyfforddwr a chyn-fancwr, Andrew Tamplin, a’r cwnselydd Daisy Evans yn cael sgwrs onest, agored a ffraeth am arian. Pwyntiau nodi yn y bennod Elin yn cyflwyno ei hun (1:50) Stori Andrew (2:20) Tabŵ siarad am arian (4:56) Prifysgol yn fraint - ond un sy’n costio - a chostau astudio meddygaeth yng Nghymru (6:18) Andrew yn siarad am ei breakdown (15:28) Daisy yn siarad am y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr ac Andrew ac Elin yn siarad am gynllunio a chyllidebu (22:42) Elin yn siarad am y gymharu’n hunain ag eraill a’r pwysau mae pobol yn teimlo (27:19) Y cylch o iechyd meddwl a gwario (30:16) Faint mae myfyrwyr yn trafod arian yn agored (32:55) Daisy yn siarad am gynllunio a’r apiau sydd ar gael i helpu gyda hynny (37:02)
    45m 58s
  • Gwneud y Pethau Bychain

    27 JUN 2023 · Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon mae Trystan Ellis-Morris yn trafod rhai o’r pethau hyn - o gelf, i redeg, i nofio gwyllt - yng nghwmni’r cwnselydd celf, Gwawr Roberts, y myfyrwyr Katie Phillips a Cara Walters, y cyflwynydd a hyfforddwr personol Connagh Howard, a’r hyfforddwraig nofio, Caris Hedd Bowen. Mae’n sgwrs ysbrydoledig fydd yn codi chwant arnoch redeg tua’r môr (a’i ddarlunio wedyn!). Cara yn siarad am ddechrau rhedeg (5:31) Katie yn siarad am redeg a dechrau nofio gwyllt (9:56) Stori Caris a sut ddechreuodd hi nofio (12:02) Connagh a’i berthynas gyda ffitrwydd - dechrau gyda dyspracsia yn blentyn (18:33) Gwawr yn siarad am ei gwaith fel therapydd celf (22:44) Mae’n iawn i beidio bod yn wych yn rhywbeth - ond dal ei fwynhau (33:41)
    44m 12s
  • Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn

    13 JUN 2023 · Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans i drafod eu profiadau nhw o fyw gydag anhwylder personoliaeth ac anhwylder deubegwn. Mae’n sgwrs onest, agored, pwerus ac ysbrydoledig yn un. Rhybudd cynnwys: anhwylder bwyta Beth yw anhwylder personoliaeth a stori Tegwen (5:31) Beth yw anhwylder deubegwn a stori Ceri, gan gynnwys bod tri math ohono (7:52) Tegwen yn trafod anhwylder bwyta (19:07) Ceri yn trafod datblygu drama am anhwylder deubegwn (22:35) Endaf yn siarad am y modd gall cwnselydd helpu (28:42) Strategaethau ymdopi Tegwen (36:10) Beth mae diagnosis wedi meddwl i Ceri, ymdopi a bod yn agored (36:59)
    46m 24s
  • Cael Cymorth

    30 MAY 2023 · Mae gofyn am help yn rhywbeth mae llawer ohonom yn gweld yn anodd i'w wneud, ym mhob agwedd o fywyd, ond yn arbennig efallai gyda’n hiechyd meddwl. Y cwnselydd Myfanwy Williams, y myfyrwyr Daisy a Hywel - sydd hefyd yn rhan o’r tîm sy’n rhedeg gwefan meddwl.org - sy’n trafod y pwysigrwydd o gael cymorth pam fod angen, a’r effaith bositif mae hynny’n gallu cael ar ein lles a iechyd meddwl. Rhybudd cynnwys: hunan anafu Stori Daisy yn dechrau yn ei harddegau (4:48) Stori Hywel a’i brofiad ef (8:06) Cyngor i fyfyrwyr sydd eisiau agor allan (20:32) Trystan yn trafod ei brofiad personol ef o agor allan a chael cymorth (22:07) Dod o hyd i gwnselydd sy’n addas i chi (24:10) Blogiau ar meddwl.org yn rhannu profiadau (26:14) Pwysigrwydd cael cymorth (31:34)
    35m 15s
  • Niwroamrywiaeth

    14 MAY 2023 · Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie Phillips a’r gantores Non Parry yn dod ynghyd i rannu eu profiadau nhw o niwroamrywiaeth. Trafodir y modd mae cael diagnosis o ADHD ac awtistiaeth wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld ac yn beirniadu eu hunain. Beth yw niwroamrywiaeth? (1:55) Non yn cael diagnosis o awtistiaeth (5:31) Katie yn mynd drwy’r broses o gael ei hasesu am ADHD (6:49) Profiad proffesiynol a phersonol Endaf o ADHD (9:58) Beth ydy’r nodweddion i edrych mas amdanyn nhw? (12:52) Diagnosis ddim yn beth negyddol (28:27)
    34m 42s

Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl. Am fwy o...

show more
Ym mhodlediad Sgwrs? mae Trystan Ellis-Morris yn sgyrsio gyda chwnselwyr, myfyrwyr ac ambell wyneb adnabyddus a dylanwadol am bynciau amrywiol yn ymwneud gyda lles a iechyd meddwl.

Am fwy o wybodaeth ewch i myf.cymru

Ariennir Sgwrs? gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search