Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Nerth dy Ben

  • Ceridwen a Llywela

    18 OCT 2022 · Sgwrs bendigedig rhwng dwy efaill, Ceridwen a Llywela, am yrfa ar ôl coleg, dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, mwynhâd o lwyddo ym myd y pel-droed a’r pwysa sy’n bodoli ar ddelwedd.
    25m 12s
  • Ceridwen a Gwern

    14 OCT 2022 · Tro yma mae Ceridwen yn rhoi’r byd yn ei le hefo Gwern Pierce. Cymeriad a hanner sydd a’i draed ar y ddaear ac sy’n ceisio byw ei fywyd gyda un feddylfryd benodol…! Sgwrs hamddenol braf a gonest rhwng dau berson Ifanc a doeth.
    16m 19s
  • Ceridwen ac Elenid

    11 OCT 2022 · Yn y gyfres fer yma o bodlediadau Nerth yr Ifanc, mae Ceridwen yn sgwrsio, mwydro ac yn rhoi’r byd yn ei le hefo tri ffrind yn ei dro. A’r cyntaf ydy Elenid Alun, sydd yn sgwrsio am ei phenderfyniad hi i beidio dilyn y drefn ‘arferol’ o fynd i’r brifysgol, a chael yr hyder i ddilyn ei trywydd ei hun. Mwynhewch!
    22m 45s
  • P4 Sgwrs Llior a’r ‘baby lunatic’

    12 MAY 2022 · ** Pennod arbennig ** Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd!  Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac o drio cadw dy hun yn gall ar ol profi genedigaeth trawmatic i deimlo fel Beyonce!!  (o.n ‘Wolfgang and the baby lunatic gan Charlie C King’ ydy enw’r nofel gyda llaw! Sy’n llawn hiwmor tywyll, gonestrwydd a realiti bywyd yr awdures. Ewch i brynnu copi! 🙂) 
    34m 53s
  • P3 Mari Hughes - byd llawn lliw

    5 MAY 2022 · Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio hefo Mari o Lansannan, sydd wedi dilyn gyrfa ym myd Celf. Dan ni’n sgwrsio am ddylanwad celf ar ei bywyd o ddydd i ddydd, a sut ma' hynny wedi ei galluogi hi i ddelio efo be' bynnag ma bywyd yn ei daflu ati. Ma' hon yn sgwrs llawn lliw, creadigrwydd, pwysigrwydd hunan-werth, a derbyn bod hi’n ocê i wneud camgymeriadau, a defnyddio’r rhwbiwr 'na o dro i dro, ac ail ddechra’ dylunio. Mwynhewch!
    58m 53s
  • P2 Dewi Glyn - Cobiau, chwerthin a chicio pêl

    20 APR 2022 · Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn. Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlas yn Trofarth, Llangernyw. Dan ni’n sgwrsio am bwysigrwydd persbectif, nerth a chryfder cymeriad, y wers o fethiant, a darganfod be sy’n gyffredin rhyngdda fo a’r teulu brenhinol. O ia – a phêl droed!
    50m 58s
  • P1 Llior Radford – O Lannefydd i Lundain

    7 APR 2022 · Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd. Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm olygu iddi fagu’r cryfder i oroesi byd heriol y byd ffasiwn yn Llundain, y gwersi mae hi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd, a’r hyn sydd bellach yn bwysig iddi ar ôl gwthio ei ffiniau a chyflawni gyrfa lwyddianus.
    53m 43s
  • Cyflwyniad

    3 APR 2022 · Be' ma' cryfder meddwl yn ei olygu mewn gwahanol sefyllfaoedd? O’r ffarm i’r weinidogaeth, o’r mynyddoedd i’r ‘stafell ddosbarth - stay tuned i ffeindio allan!
    58s
  • Nerth dy Ben

    2 FEB 2021
    44m 15s

Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn...

show more
Mae’r gyfres yma yn rhoi’r cyfle i ni sgwrsio a dod i ‘nabod pobol anhygoel ein cymuned sydd i gyd yn eu tro wedi defnyddio ac adnabod eu cryfderau mewn amryw ffyrdd.
Ymunwch hefo ni mewn sgwrs lle dan ni’n dathlu yr hyn sy’n ein gwneud ni’n unigryw fel unigolion, a’r hyn oll dan ni’n ei gyflawni hefo nerth.
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search