Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Am Iechyd

  • Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru?

    5 OCT 2023 · Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Recordiwyd y podlediad hwn o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a hynny ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor. Mae'r newyddion bod ysgol feddygol newydd sbon ar fin cael ei sefydlu yma Mangor yn gyffrous iawn a mawr ydy'r edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ym Medi 2024. Ar gyfer y podlediad hwn, dan gadeiryddiaeth Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth, Prifysgol Bangor, cafwyd trafodaeth ddifyr yng nghwmni Dr Berwyn Owen (Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol, Penygroes), Dr Nia Hughes (Cyfarwyddwyr Meddygol Gofal Cychwynnol - Gorllewin), Dr Robin Parry (meddyg teulu), Dr Marc Edwards (Meddyg teulu ac Uwch ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Iechyd, Prifysgol Bangor), a Sion O’Brien a Jasmine Blight (darpar feddygon). Mwynhewch y gwrando! Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
    46m 5s
  • Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

    20 SEP 2023 · Dyma bodlediad newydd sbon yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD. Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn y podlediad hwn fe fyddwn yn trafod pwnc sy'n gynyddol ar y newyddion y dyddiau hyn sef iechyd meddwl pobl ifanc. Mae llawer o drafod ar y ffactorau sy'n gallu effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a bwriad y podlediad hwn ydy agor cil y drws ar rai o'r ffactorau hynny. Yn cyfrannu at y drafodaeth mae Dr Mair Edwards (Seicolegydd Clinigol) yng nghwmni Donna Dixon (Darlithydd ac Ymchwilydd yn Ysgol Addysg), Dr Ceryl Davies (Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd) ac Anwen Rhys Jones (Swyddog Ymchwil Ysgol Addysg) o Brifysgol Bangor. Cadeirydd y drafodaeth ydy Rhian Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor. Mwynhewch y gwrando! Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
    45m 4s
  • Modelau Genedigaeth

    12 JUL 2023 · Yn y pumed podlediad yn y gyfres AM IECHYD, y testun trafod ydy genedigaeth a sut mae agweddau pobl wedi newid tuag at enedigaeth dros y blynyddoedd. A oes gormod o bwysau ar ferched i eni mewn ysbyty? A ydy geni adref yn cael ei hyrwyddo yn ddigonol? A oes gormod o ymyrraeth meddygol mewn genedigaeth y dyddiau hyn? Ymunwch efo'r podlediad difyr hwn a gwrando ar y sgwrs rhwng Siwan Humphreys (darlithydd mewn Bydwreigaeth, Prifysgol Bangor), Sian Beca (mam i ddau sydd wedi'u geni adref), Catrin Roberts (Bydwraig yn ysbyty Glan Clwyd a Myfyriwr Doethuriaeth) a Sian Roberts (Darlithydd Bydwreigiaeth rhan amser, gynt yn fydwraig cymunedol).
    45m 22s
  • Byw Efo Dementia

    27 JUN 2023 · Yn y podlediad hwn yn y gyfres AM IECHYD, mae'r panelwyr yn trafod pwnc sy'n effeithio ar nifer fawr ohonon ni sef 'Byw efo Dementia'. Cadeirydd y sgwrs ydy Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor ac o gwmpas y bwrdd efo Catrin mae Emma Quaeck (Rheolwr Dementia Actif Gwynedd), Rhian Green (merch i wraig sydd yn byw efo dementia) a Glenda Roberts sydd ei hun yn byw efo dementia. Mwynhewch y gwrando! Dyma wybodaeth bellach am rai o'r pwyntiau a thrafodwyd yn ystod y podlediad. Cwrs Meistr mewn Dementia Bangor https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/postgraduate-taught/astudiaethau-dementia-msc Grwp Caban: Croeso cynnes i aelodau newydd ar draws Cymru https://dsdc.bangor.ac.uk/caban-group.php.cy Adnoddau dwyieithog sydd wedi ei casglu ar gyfer rhoi cyngor yn dilyn diagnosis. Cewch fynediad at lawer o'r cyngor roeddwn yn drafod yn y llawlyfrau Grym Mewn Gwybodaeth - Cymru a Pwer mewn Gwybodaeth 2. https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy Dementia Actif https://www.dementiaactifgwynedd.cymru/index.php Cadw Cysylltiad Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ffilm o berfformiad dawns arbennig iawn. Enw’r ddawns yw “Cadw Cysylltiad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth hyfryd Swan Lake. Crëwyd Cadw Cysylltiad mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb a mae’r ffilm yn serennu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, cyd-aelodau a staff sydd wedi mwynhau dosbarthiadau ar-lein gyda'i gilydd dros y pandemig. https://fb.watch/kT5nK_Y5Rw/
    56m 29s
  • Beth ydy ystyr gofalu?

    25 APR 2023 · Yn y podlediad difyr a pherthnasol hwn fe glywch chi sgwrs rhwng Owain Pennar, sy'n defnyddio gwaasanaeth gofalu, Elen Vaughan Jones, o Uned Hyfforddi Cyngor Gwynedd a Rhian Lloyd, darlithydd o'r rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor dan gadeiryddiaeth Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor. Beth yn union ydy ystyr gofalu cyflogedig a gofalu di-dal? Pa nodweddion sydd gan rhywun sydd yn dda am ofalu? Beth am y prinder diweddar mewn gofalwyr? Gwrandewch ar y podlediad hwn er mwyn cael gwybod mwy.
    44m 3s
  • Y Berthynas rhwng Iechyd a Gofal

    21 FEB 2023 · Beth mae cydweithio effeithiol rhwng iechyd a gofal yn ei olygu? Sut fydd gofal yn edrych yn y dyfodol? Sut mae rhoi pobl yn ganolog i wasanaethau a beth ydy cyfraniad cymunedau i ofal? Dyma bodlediad rhif 2 yn y gyfres Am IECHYD lle mae arbenigwyr o faes gofal ac iechyd yn dod at y bwrdd i drafod materion sy'n effeithio arnon ni gyd ar adegau gwahanol yn ein bywyd.
    40m 39s
  • Bronfwydo

    24 JAN 2023 · Dyma'r podlediad cyntaf yn y gyfres newydd sbon o bodlediadau AM IECHYD a fydd yn trafod y materion iechyd a gofal sydd yn effeithio ar bob un ohonon ni ar adegau gwahanol yn ein bywyd. Testun y drafodaeth yn y podlediad cyntaf hwn ydy 'Bronfwydo' a cheir trafodaeth hynod ddiddorol dan arweiniad Siwan Humphreys, Darlithydd mewn Bydwreigaeth yma yn y Brifysgol ym Mangor. Mae'r panel yn cynnwys Eleri Stokes, Ymwelydd Iechyd, Sian Roberts, Darlithydd Bydwreigaeth a Sharon Breward, Cydlynydd Bwyd Babanod ac Ymgynghorydd Llaetha. Ymhlith y pynciau trafod yn y podlediad hwn mae buddion bronfwydo i'r babi ac i'r fam, dylanwad pellgyrhaeddol cwmniau cynhyrchu llaeth potel a sut mae annog mwy o famau i fronfwydo. Mwynhewch y gwrando.
    49m 40s
  • Croeso i bodlediad Am Iechyd

    16 JAN 2023 · Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
    26s

Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd. Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at...

show more
Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd.

Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search