Settings
Light Theme
Dark Theme

Creu cymunedau iach yng Nghymru

Creu cymunedau iach yng Nghymru
Jun 4, 2019 · 19m 43s

Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol...

show more
Mae Syniadau Iach yn trafod sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd cymunedau Cymru. “Mae anghyfiawnder cymdeithasol yn lladd ar raddfa fawr” Dyna oedd farn Comisiwn Penderfynyddion Cymdeithasol ar Gyfer Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd nol yn 2008. Cadeirydd y Comisiwn oedd yr Athro Syr Michael Marmot,(LINK) sy’n Athro Epidemioleg ac Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i oes yn ceisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a deall sut mae'n effeithio ar ein hiechyd.

Fel aelod o Gomisiwn Bevan, mae Syr Michael, yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn y podlediad hwn fe fydd Dr Zoe Morris Williams, meddyg teulu ym Mhontypridd a Siôn Charles, dirprwy gyfarwyddwr y Comisiwn Bevan yn ymateb i sylwadau Syr Michael.

Byddan nhw’n trafod sut mae ffactorau cymdeithasol, fel cyflwr tai, gwaith a bwyd yn dylanwadu ar iechyd.

“Mae na ardaloedd o Gymru yn rhai o ardaloedd fwya’ tlawd yn Ewrop, ac mae hwnna yn mynd i effeithio ar iechyd pobl,” dywed Zoe gan ychwanegu bod hi’n bwysig i edrych nid dim ond ar ba mor hir mae pobl yn byw ond eu hansawdd bywyd.

“Ma pawb yn deall bod y ffactorau yma yn dylanwadu ar eu hiechyd nhw, ond be ma nhw’n ffindio fe’n galed i neud dwi’n credu, yw i neud y penderfyniad fel ma nhw’n newid eu hymddygiad a fel ma nhw’n neud pethau drostyn nhw’u hunain,” meddai Sion.

Sut mae mynd i’r afael ar newid meddylfryd pobl er mwyn creu cymunedau iach yng Nghymru?
show less
Information
Author hello@lshubwales.com
Website -
Tags

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search