Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

  • Y Bobl Ifanc Piau Hi

    28 MAR 2023 · Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Maen nhw'n trafod rhai o'r heriau maen nhw wedi eu hwynebu, yn ogystal â siarad am eu rhan yn herio y camsyniadau sydd gan eraill am fabwysiadu a sut maen nhw'n dylanwadu ar bolisi.
    23m 40s
  • Mae Pawb yn Gallu Mabwysiadu

    14 DEC 2022 · Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig? Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camsyniadau camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu a thrafod pam fod cael pwll eang o fabwysiadwyr amrywiol i ddewis ohono yn hanfodol bwysig i’r plant sy’n aros am riaint. Ry ni’n clywed am y gofidion oedd gan Gwawr a Rhys – y ddau mewn cyplau un rhyw - cyn iddyn nhw wneud eu ceisiadu nhw i fabwysiadu. I gloi, mae Rachel, Gwawr a Rhys yn siarad am y fraint o gael magu eu plant.
    28m 26s
  • Help Llaw Yn Yr Ysgol

    30 NOV 2022 · Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg? Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu. Ry’n ni’n clywed gan Rhys am y modd mae e wedi cyd-weithio gyda’r ysgol i wella profiad ei fab, mae Gwawr yn siarad am y pwysigrwydd o gyfathrebu ac estyn allan am gymorth lle bod angen ac mae Rachel yn sôn am ddewis yr ysgol iawn ar gyfer eich plentyn chi.
    24m 41s
  • Cariad a Thrawma

    16 NOV 2022 · Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd? Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd wedi mabwysiadu, y modd mae hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses fabwysiadu a’r modd mae ein rhieni yn delio gydag e o dydd i ddydd wrth rianta. Fe wnawn ni glywed gan Rhys, Gwawr a Rachael am ddull rhianta mewn modd therapiwtig. Mae Rhys yn siarad am egwyddorion PACE – Playfulness, Acceptance, Curiosity and Empathy – tra bod Rachel a Gwawr yn ein hatgoffa ni bod pethau ddim wastad yn berffaith, ond bod cariad - a dweud sori - yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.
    31m 50s
  • Cadw a Chreu Cysylltiadau

    2 NOV 2022 · Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib? Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o gyfathrebu gyda theuluoedd geni eu plant, ynghyd â theuluoedd maeth, ac am y ffordd maen nhw’n trin a thrafod disgwyliadau eu plant. Mae Rhys yn sôn am gwrdd â mam biolegol ei fab a Rachel yn siarad am y ffaith bod rhiant un plentyn yn ymateb i’w llythyrau blynyddol, tra bod rhiant ei merch arall ddim yn gwneud a’r dolur mae hynny yn gallu achosi - ond pwysigrwydd y broses er gwaetha’ hyn. Mae Gwawr yn trafod cydnabod hanes a stori ei merched.
    32m 16s
  • Ein Taith Fabwysiadu

    18 OCT 2022 · Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn? Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o fabwysiadu plant a’u cyflwyno i’w cartrefi parhaol. Maen nhw’n siarad am ddwyster y broses, dysgu amdanyn nhw’u hunain, addasu disgwyliadau, siom a gorfoledd y broses baru, trawma, a mwy.
    28m 21s
  • Cefnogaeth ôl fabwysiadu

    12 DEC 2020 · Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig.
    24m 7s
  • Creu cysylltiad â fy mhlentyn

    28 NOV 2020 · Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n neud yn gwneud gwahaniaeth.
    29m 59s
  • Wythnos gyntaf fy mhlentyn gartref

    14 NOV 2020 · 4. Yn y bodlen hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am yr wythnos gyntaf treulio’n nhw gyda’u plant a’r realiti eu bod nhw bellach yn rhieni.
    31m 18s
  • Y broses baru

    31 OCT 2020 · 3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?
    26m 17s

Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu. Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei...

show more
Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu.

Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd.

I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch:

Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionservice
Cysylltwch â ni adoptcymru.com
show less
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search