Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Trysorfa Trelech - Ysgol Hafodwenog

  • Trelech a'r Beili - Golygfa 11 Penygroes

    26 MAY 2021 · Ar dir comin ger Penygroes, ymhell o helynt y pentref, mae un teulu bach wedi cael diwrnod prysur iawn yn hela a’n creu pob math o grefftau i’w gwerthu. Maen nhw’n eistedd o gylch y tân yn gwylio’r watsh arian (y lleuad i chi a fi) yn dringo fry i’r awyr uwchben.
    1m 16s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 10 Ysgol Trelech

    26 MAY 2021 · Ar iard Ysgol Trelech, roedd y plant yn mwynhau chwarae. Cymraeg oedd iaith y chwarae, er mai Saesneg oedd iaith y dosbarth.
    3m 15s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 9 Fferm Hafodwenog

    26 MAY 2021 · Ar Fferm Hafodwenog, mae David Evans wedi bod yn brysur iawn yn aredig y tir a’i ferch, Elisabeth, wedi godro, golchi’r dillad ac wedi pobi bara ffres i de. Mae Sophia, ei wraig, newydd ddod nôl o’r siop ac ar fin dechrau gwneud te i’w gŵr blinedig.
    2m 55s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 8 Ffynnondafolog

    26 MAY 2021 · Mae’n 1 o’r gloch y prynhawn ac mae Mr Stevens a’i griw newydd adael fferm Ffynnondafolog. Mae ei wyneb fel taran am bod ffarmwr arall wedi gwrthod talu ei ddyled. Mae Mr Stevens yn dechrau difaru iddo ddod i blwyf Trelech a’r Betws y diwrnod hwnnw.
    2m 30s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 7 Y Sgwâr

    26 MAY 2021 · Mae’n 10 o’r gloch ac ar sgwâr y pentref, y tu allan i Gapel-y-Graig a siop Rock Hall, mae criw o gymdogion yn trafod rhywbeth pwysig. Mae aderyn bach newydd ddweud wrthyn nhw bod Mr Stevens, y beili sy’n gyfrifol am gasglu dyledion y Degwm, ar ei ffordd o Gaerfyrddin i Drelech gyda’i weision – a 70 o blismyn!!
    3m 46s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 6 Green Hall

    26 MAY 2021 · Yn nhŷ Green Hall, cartref y clocsiwr lleol, mae Anna Morgan a’r plant ar fin gadael y tŷ i gerdded y 2 filltir i Ysgol Trelech. Mae Thomas, ei gŵr, wrthi’n brysur yn creu clocsiau newydd yn y gweithdy.
    1m 22s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 5 Felin-newydd

    26 MAY 2021 · Yn Felin-newydd, ar lan afon Cynin, mae’r rhod ddŵr yn llonydd. Dyw Caleb James, y melinydd, heb ddechrau ar waith y dydd. Mae Rachel, ei wraig, yn brysur yn paratoi brecwast i bawb cyn mynd â’r plant i’r ysgol.
    1m 44s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 4 Rock Hall

    26 MAY 2021 · Yn Rock Hall, y siop leol, mae Mr John Evans a’i deulu yn edrych mlân at ddiwrnod prysur iawn ac Anne Davies, y forwyn fach, yn paratoi brecwast i bawb.
    2m 53s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 3 Fferm Hafodwenog

    26 MAY 2021 · Mae’n ddydd Llun, ac mae pentref Trelech yn fwrlwm o fywyd. Ar fferm Hafodwenog, mae David Evans newydd orffen ei frecwast ac yn barod am fore prysur o waith.
    1m 50s
  • Trelech a'r Beili - Golygfa 2 Capel y Graig

    26 MAY 2021 · Cododd yr haul yn gynnar gan oleuo caeau glas a chloddiau blodeuog yr ardal. Ym Mhenygroes, mae Laurel, y ferch 13 oed, wedi codi cyn cŵn Caer – ond nid cyn y milgi brych. Mae hwnnw eisoes wedi diflannu i rywle.
    3m 47s

Drama Radio Ysgol Gynradd Hafodwenog Trelech a’r Beili gan Un o’r lle Mae’r gwaith wedi ei sbarduno gan ddigwyddiad hanesyddol yn ymwneud â Rhyfel y Degwm, a ddigwyddodd ym mhlwyf...

show more
Drama Radio Ysgol Gynradd Hafodwenog
Trelech a’r Beili gan Un o’r lle

Mae’r gwaith wedi ei sbarduno gan ddigwyddiad hanesyddol yn ymwneud â Rhyfel y Degwm, a ddigwyddodd ym mhlwyf Trelech a’r Betws, Sir Gaerfyrddin ac â gofnodwyd ym mhapur newyddion Y Celt ar Fai 17eg, 1889.

Ffrwyth dychymyg yw’r holl sgyrsiau.
show less
Contacts
Information
Author Stiwdiobox
Categories Drama
Website -
Email ymholiadau@stiwdiobox.com

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search