Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Sgwrsio am Brifysgol

  • A alla’ i gymryd y naid i astudiaeth academaidd uwch?

    7 AUG 2023 · Ydych chi’n poeni am yr heriau o astudio yn y brifysgol? Sut beth yw astudiaeth addysg uwch mewn gwirionedd? Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael â bywyd academaidd yn y brifysgol. Cawn glywed am brofiadau gwirioneddol myfyrwyr, ffyrdd newydd o astudio, rheoli amser, astudio trwy gyfrwng y Gymaeg, yr her o ddelio ag aseiniadau ac arholiadau - ac yn bwysicach na dim, y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fo’i hangen. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
    39m 41s
  • A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

    7 AUG 2023 · Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? A yw’n swnio fel breuddwyd anghyraeddadwy? A fydd wirioneddol yn werth chweil yn y tymor hir - yn enwedig gan mai’r unig beth mae pawb i weld yn sôn amdano’r dyddiau hyn yw dyled myfyrwyr? Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
    41m 39s
  • Fydda i’n ffitio i fywyd myfyriwr?

    7 AUG 2023 · Mae bywyd prifysgol yn fwrlwm o brofiadau newydd - sy’n gyffrous ond hefyd yn frawychus. Ydych chi’n poeni ynghylch cwrdd â phobl newydd neu lle fyddwch yn byw? Yn y bennod hon rydym yn sgwrsio’n onest ynglŷn â’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol - profiad y glas, gwneud ffrindiau, byw oddi cartref - neu’n wir, aros gartref. Nid ymwneud ag astudio yn unig mae bywyd prifysgol – rydym yn rhannu ychydig o awgrymiadau ac yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â phrofiad cymdeithasol y myfyriwr. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
    32m 34s
  • Sut mae mynd drwy’r broses ymgeisio?

    7 AUG 2023 · Felly rydych wedi penderfynu mynd amdani - a nawr mae’n amser gwneud cais! Sut ydych chi’n penderfynu lle a beth i astudio, a dewis y cwrs perffaith i chi? A lle dylech chi ddechrau gyda’ch Datganiad Personol? Yn y bennod hon rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, cam wrth gam, ac yn rhannu profiadau bywyd go iawn o’r broses ymgeisio, o Ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored, i benderfynu astudio try gyfrwng y Gymraeg, i lunio dewisiadau pendant a mynd drwy’r system Glirio. openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
    32m 44s
  • A yw’r brifysgol yn addas i mi?

    7 AUG 2023 · Mae pawb yn dweud mai’r brifysgol yw’r prif nod academaidd, un a fydd yn eich arwain yn y pen draw at yrfa a chyfleoedd bywyd llawer gwell - ond ai dyma’r opsiwn gorau i chi? A yw’n teimlo’n rhy frawychus, dychrynllyd, llethol, anodd, drud - ac a fyddai’n werth yr holl straen a gwaith beth bynnag? Mae cymaint o bethau i’w hystyried y dyddiau hyn cyn penderfynu a yw bywyd prifysgol yn addas i chi. Yn y bennod gyntaf hon rydym yn trafod ystod o faterion a fydd efallai’n eich helpu chi i wneud y penderfyniad cychwynnol hwnnw, gan ymdrin â llu o brofiadau amrywiol. Ac os ydych yn meddwl y gallai’r brifysgol fod yn addas i chi, rydym yn edrych ar sut mae mynd ati i ddewis y brifysgol a’r cwrs delfrydol, yn ogystal â llu o bethau eraill! openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol
    36m 12s
  • Dyma Sgwrsio am Brifysgol

    4 AUG 2023 · Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau. Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr. Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch. Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i https://openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.
    2m 4s

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau. Byddwn...

show more
Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.

Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.

Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.

Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.
show less
Contacts
Information
Author Bengo Media
Categories Education
Website -
Email steve@bengomedia.com

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search