Settings
Light Theme
Dark Theme
Podcast Cover

Am Waith Cymdeithasol

  • Meddwl am Iechyd Meddwl

    20 FEB 2024 · Meddwl am Iechyd Meddwl: Sgwrs am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rifyn olaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor. Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni. Yn y podlediad yma, mae Gwenan Prysor (Cyfarwyddwr y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol) ag Aled Griffiths (Ymarferydd GIMPPhI/ Seicotherapydd Achrededig) yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Yn ystod y drafodaeth fyddech yn clywed am y pwysigrwydd o ddeall y gwahaniaeth rhwng straen meddyliol a salwch meddyliol, yn ogystal â mathau gwahanol o gefnogaeth sydd ar gael. Fyddech hefyd yn clywed am ddylanwadau gwahanol ar iechyd meddwl yn cynnwys cymdeithas, COVID 19 a thrawma.
    50m 7s
  • Gofalwyr Ifanc

    24 JAN 2024 · Gofalwyr Ifanc: Adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sydd hefo cyfrifoldebau gofalu o fewn ein cymunedau ni Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r drydedd bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor. Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni. Yn y rhifyn yma mae Rhian Lloyd (Darlithydd Gwaith Cymdeithasol), Ffion Wynne Edwards (Swyddog Gofalwyr Ifanc, Cyngor Gwynedd), a Maria Bulkeley a Marti Hordle o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ynys Môn a Gwynedd (Gweithredu Dros Blant) yn trafod y pwysigrwydd o drio adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc o fewn ein cymunedau ni. Fyddech yn clywed am hunaniaeth pobl ifanc, gwahanol gyfrifoldebau sydd gan ofalwyr ifanc, a sut i gefnogi unigolion i drafod eu sefyllfaoedd personol. Hefyd fyddech yn clywed am yr elusen Gweithredu Dros Blant a’r math o gefnogaeth sydd ar gael ar draws Ynys Môn a Gwynedd i ofalwyr ifanc. Mae Gweithredu Dros Blant hefo tudalen facebook https://www.facebook.com/GofalwyrIfancYnysMonGwynedda Instagram: https://www.instagram.com/afcgofalwyrifanc_mon_a_gwynedd/
    37m 23s
  • Gwasanaethau GISDA: Y pwysigrwydd o gydweithio hefo, cefnogi a grymuso pobl ifanc

    7 DEC 2023 · Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r ail bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor. Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni. Yn y rhifyn yma mae Reece Moss, Vex Ellis, Sian Tomos a Sharon Thomas o GISDA yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod y pwysigrwydd o gael gwasanaeth GISDA yng Ngwynedd. Fyddech yn clywed am sut mae staff GISDA yn cydweithio hefo pobl ifanc, i hybu eu datblygiad a’u hyder, ac i sicrhau fod eu llais yn cael eu clywed. Hefyd, fyddech yn clywed am rhai o’r heriau mwyaf i bobl ifanc ar hyn o bryd, a phwysigrwydd gwerthoedd megis trin pawb hefo parch a pheidio barnu unigolion.
    44m 26s
  • Gwasanaethau ‘Gorwel’: Y Pwysigrwydd i’n Cymunedau a Chymdeithas

    9 NOV 2023 · Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rhifyn gyntaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor. Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni. Yn y rhifyn yma mae Osian Elis yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod yr asiantaeth ‘Gorwel’ a’r gwasanaethau gwahanol sydd yn bodoli o fewn yr asiantaeth yma. Fyddech yn clywed am sut mae Gorwel yn mynd ati i ymateb i anghenion o fewn y gymuned, gyda ffocws ar elfennau gwahanol megis cyd weithio, meddwl tu allan i’r bocs a hybu llesiant staff.
    40m 29s
  • Pwy Sydd Eisiau Fod yn Weithiwr Cymdeithasol?

    19 JUN 2023 · Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ lle bydd y drafodaeth heddiw yn ffocysu ar: ‘Pwy sydd eisiau fod yn Weithiwr Cymdeithasol?’. Mae hyn yn gyfle gwych i glywed am brofiadau un myfyriwr presennol a dau cyn myfyrwyr, yn ogystal a godi ymwybyddiaeth am y cwrs a’r proffesiwn, ac hefyd efallai i chwalu chwedlau ar yr un adeg!https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/postgraduate-taught/gwaith-cymdeithasol-maWelcome to the podcast 'Am Waith Cymdeithasol' (About Social Work) where today's discussion will focus on: 'Who wants to be a Social Worker?'. This is a great opportunity to hear about the experiences of one current student and two former students, as well as raise awareness about the course and the profession, and also perhaps dispel myths at the same time!https://www.bangor.ac.uk/courses/postgraduate-taught/social-work-ma
    36m 50s
  • Pennod 2: Ffoaduriaid: Beth yw'r mythau a beth yw'r gwir?

    4 MAY 2023 · Croeso i’r ail bennod o ‘Am Waith Cymdeithasol’. Yn y bennod yma mae’r myfyriwr Bethan Edwards yn ymuno hefo aelodau o’r Tîm MA Gwaith Cymdeithasol i drafod ‘Ffoaduriaid: Beth yw’r mythau a beth yw’r gwir’. Rydym yn trafod materion gwleidyddol, canfyddiadau'r cyhoedd, yr iaith a ddefnyddir wrth drafod unigolion, ynghyd a’r plethiant hefo gwerthoedd gwaith cymdeithasol.Welcome to the second episode of 'Am Waith Cymdeithasol’ (‘About Social Work'). In this episode student Bethan Edwards joins members of the Social Work MA Team to discuss 'Refugees: What are the myths and what is the truth'. We discuss political issues, public perceptions, the language used when discussing individuals, along with the connection to social work values.
    40m
  • Pennod 1: Beth ydi Cymuned?

    21 MAR 2023 · Croeso i'r pennod cyntaf o'r podlediad newydd 'Am Waith Cymdeithasol' Ar gyfer y bennod gyntaf, bydd aelodau o’r Tîm MA Gwaith Cymdeithasol o fewn y Brifysgol yn trafod ‘Beth ydi cymuned?’, a ddatblygodd o’r thema ar gyfer Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd eleni: ‘Parchu amrywiaeth trwy weithredu cymdeithasol ar y cyd’. Rydym yn ystyried materion fel: sut mae cymuned wedi newid dros amser; y cysylltiad â Covid 19; yn ogystal â’n rôl ni o fewn y gymuned o fewn y trafodaethau.https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/postgraduate-taught/gwaith-cymdeithasol-maWelcome to the first episode of the new podcast 'Am Waith Cymdeithasol' (About Social Work). For the first episode, members of the University’s MA Social Work Team will discuss ‘What is a community?’, which developed from the theme for this year’s World Social Work Day: ‘Respecting diversity through joint social action’. We give thought and consideration to matters such as: how community has changed across time; the link to Covid 19; as well as our role in community within the discussions.https://www.bangor.ac.uk/courses/postgraduate-taught/social-work-ma
    21m 53s
  • Rhagolwg Pennod 1: Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd

    17 MAR 2023 · Rydym wedi penderfynu lansio’r podlediad yma heddiw ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd gan fod ffocws y podlediad wrth gwrs ar faterion cyfredol sydd yn gysylltiedig â Gwaith Cymdeithasol. Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd wedi cael ei ddathlu ers 2007, a bob blwyddyn yn fis Mawrth mae Gwaith Cymdeithasol yn cael ei hyrwyddo ar draws y byd.
    1m 6s
Am Waith Cymdeithasol: cyfle i glywed a pharchu lleisiau gwahanol am faterion cyfredol sydd yn ymwneud a Waith Cymdeithasol.
Contacts
Information

Looks like you don't have any active episode

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Current

Looks like you don't have any episodes in your queue

Browse Spreaker Catalogue to discover great new content

Next Up

Episode Cover Episode Cover

It's so quiet here...

Time to discover new episodes!

Discover
Your Library
Search